Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PRIVATE JOHN WILLIAM MUMMERY.
Wele ddarlun o ddyn ieuane gafodd rai blynyddoedd o brofiad fel milwr cyn toriad allan yr Armagedon ddiweddaf. Yr oedd John yn fab i Mr. a Mrs. John Mummery, 197 Carnarvon Road, Bangor. Gyda'r 4th Royal Irish Dragoon Guards y gwasanaethai ef. Aeth allan i Ffrainc yn Awst, 1914, ac oddi yno i Belgium, ac yn ymosodiad Mons, collodd ei fywyd Tachwedd 1, 1914, pan yn 23 mlwydd oed.
Beth a wnaf pan egyr dorau
Tragwyddoldeb ger fy mron?
A'r materol wedi darfod,
Beth a wnaf yr adeg hon?
Ni raid ofni
Os yw'r Sylfaen ar y Graig.
—W. J. OWEN. (Afallon)