Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofeb y Dewrion (Heroes'Memorial) Bangor 1914-18.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PRIVATE ROBERT ROBERTS

Mab ieuanc annwyl a hoffus i Mr. a Mrs. John Roberts, 9 Victoria Square, Glanadda, Bangor, oedd ef. Yr oedd Robert yn un o'r rhai cyntaf i ymuno ym myddin ei wlad, sef Awst 4, 1914. Yn yr ymladd mawr yn y Dardanelles Gorff. 13, 1915, collodd ei fywyd, yn 19 mlwydd oed.

'Riaint hoff, na wylwch mwyach,
Nid oes achos bod yn brudd:
Eto anhawdd ydyw cuddio
Deigryn hiraeth ar y rudd;
Mae eich Robert mhell o gyrraedd
Gofid, galar, cur a phoen,
'Fewn i'r Ganaan bur dragwyddol,
Yng nghymdeithas Duw a'r Oen."