Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PRIVATE ROBERT ARTHUR ROBERTS, M.M.
Dyma ddarlun o ddyn ieuanc siriol a thra chymeradwy gan lu mawr yn y ddinas hon. Mab ydoedd i'r diweddar Mr. a Mrs. Thomas Roberts, Bootmaker, 95 Orme Road, Bangor. Ymunodd ar y dechreu gyda'r Royal Welsh Fusiliers, ond ym mhen peth amser trosglwyddwyd ef at y South Wales Borderers. Aeth allan i Ffrainc, ac fe enillodd yno y Military Medal. Ond mewn ymosodiad Hydref 8, 1918, collodd ei fywyd pan yn 31 mlwydd oed.
"Cydnabod dyletswydd sydd dda,
A chofio dyletswydd sydd well,
Ond gwneud dyletswydd sydd oreu."