Rhagair y Casglydd.
Nid oes angen ond ychydig iawn o eiriau oddi wrthyf fi yn y fan hon. Dodaf yma ddau reswm yn unig dros ddwyn allan y Gofeb fechan hon:
I. Cododd oddiar y cydymdeimlad puraf a llu mawr o deuluoedd profedigaethus a galarus yn y ddinas hon a'r cylch, a hyderaf y profa o dan fendith yr Arglwydd yn ychydig o falm iddynt yn eu galar a'u hiraeth.
II. Cododd o awydd gonest am gadw coffadwriaeth y dewrion a syrth iasant yn y Rhyfel Mawr yn fyw, ystyriaf fod yr aberth yn rhy werthfawr i fyned yn angof gennym yn fuan.
Gwnaeth Cymru, hen ac ieuanc, o bob dosbarth mewn cymdeithas, o bob galwedigaeth, pob enwad, a phob plaid, eu rhan yn odidog yn yr Armagedon ofnadwy.
Gadawsant bob peth oedd yn annwyl, ac yn werthfawr yn eu golwg, a rhoddasant eu hunain yn aberth dros eu gwlad, a'r pethau gwerthfawrocaf a berthynai iddi.
Gorwedd rhai ohonynt yn nyfroedd môr y Gogledd, eraill yn Ffrainc, Belgium, Canaan, Gallipoli, a lleoedd eraill.
Gadewch i ni dalu gwrogaeth iddynt oll gan weddïo am gyflawniad o'r broffwydoliaeth honno, pryd na "chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach."
- Bangor.
W. J. OWEN.