Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofeb y Dewrion (Heroes'Memorial) Bangor 1914-18.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GUNNER SAMUEL THOMAS.

Dyma ddarlun rhagorol o briod Mrs. Elizabeth C. Thomas, Bryntirion, Caellepa, Bangor. Perthynai ef i'r Royal Garrison Artillery. Aeth allan i Ffrainc, a lladdwyd ef gan fwleden o un o Aeroplanes y gelynion, Hydref 1, 1917, a chladdwyd ym mynwent filwrol Dickebush yn Belgium, pan yn 41 mlwydd oed.

Angeu roddodd i ni archoll
Gyda'i gleddyf yma'n awr,
Torrodd eto y tad tyner,
Mae y golled yma'n fawr;
Hoff ac annwyl ydoedd gennym,
Felly yn ei deulu llon,
Annwyl hefyd gan y nefoedd
Lle'r cartrefa yr awr hon.

—W. J. OWEN. (Afallon.)