Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofeb y Dewrion (Heroes'Memorial) Bangor 1914-18.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PRIVATE RICHARD THOMAS.

Wele ddarlun rhagorol o ddyn ieuanc hawddgar eto, mab i'r diweddar Mr. R. a Mrs. Catherine Thomas, 326 Carnarvon Road, Bangor. Ym mis Mawrth, 1915, yr ymunodd Dick â'r Royal Welsh Fusiliers, ac anfonwyd ef allan Meh. 1, 1916. Pan yn gweithredu fel Stretcher-bearer ym mrwydr Boulen Woods, Tach. 24, 1917, collodd ei fywyd pan ond 19 mlwydd oed.

"Y mae pawb ar gefnfor amser
'N rhwyfo yn ei gwch ei hun,
Ac nid oes a wyr ei brofiad
Ond yr Iesu, y Duw-ddyn."