Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofeb y Dewrion (Heroes'Memorial) Bangor 1914-18.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CORPL. THOMAS THOMAS.

Dyma ddarlun o drydydd mab Mr. a Mrs. William Thomas, 37 Friars Road, Bangor. Clybu yntau gorn y gâd, a gwelodd gyfyngder ei wlad, ac ymunodd â'r Cardiff City Batt. Cwympodd yntau yn yr heldrin ofnadwy, a chladdwyd ym mynwent Cite, Boujean, Armentiers, Tach. 19, 1917, yn 23 mlwydd oed. Yr oedd Thomas yn wr ieuanc llednaiș a chrefyddol, ac wedi ei fagu ar aelwyd a lle amlwg i grefydd a'r pethau goreu arni.

'Gorffwys mewn addoliad perffaith
Yng ngogoniant claer y nef,
Dan dywyniad gwenau'r Duwdod
Mwyach yn ei wynfyd Ef."