Ty Ddewi, a'r Parchedig Thomas Huet, cantor Ty Ddewi. Ond ei gyfieithad ef yw y cwbl
oddieithr y rhanau hyn:
Gan yr Esgob Davies,
Epistol cyntaf at Timotheus,
Epistol at yr Hebreaid,
Epistol Iago,
a dau Epistol Pedr
Gan Parch. T. Huet,
Llyfr y Datguddiad.
2. Richard DAVIES, D.D. Esgob Ty Ddewi. Mab i uchelwr yn sir Ddinbych ydoedd y gwr hwn. Cyfoedol oedd a Wiliam Salesbury, a ganwyd ef, fel y dywedir, ynghylch y flwyddyn 1501.—cafodd ei ddygiad i fynu yn Rhydychain. Rhoddwyd iddo yn gyntaf Fywioliaeth Burnham a Maidsmerton yn sir Buckingham; a gwnaed ef yn Ganon yn Eglwys Llanelwy. Yn amser Mari waedlyd gorfu arno ymalldudo i'r Cyfandir. Dychwelodd i'w wlad ei hun ar dderchafiad y frenhines Elisabeth' yn y flwyddyn 1558; a gwnaed ef, y flwyddyn ganlynol, yn Esgob Llanelwy: ond ymhen dwy flynedd sef yn 1561, symudodd i Dy Ddewi, a bu yno ugain mlynedd, sef hyd ei farwolaeth, yn y flwyddyn 1581.
Cyfrifid ef yn ddyn dysgedig. Yr oedd yn un o'r dysgedigion a ddiwygiasent y Cyfieithad Saesneg o'r Bibl yn y flwyddyn 1568. Rhanesid y Bibl yn bymtheg rhan, a'r rhan, a gyfieithiasai yr Esgob Davies, a gynhwysai