20. 1773, aethym i wrando Mr. Rowlands yn pregethu yn y Capel Newydd. Ei destun oedd Heb. iv. 15. Diwrnod oedd i'w fawr gofio genyf fi tra fyddwyf byw. Er y dydd dedwydd hwnw mi a fum byw mewn nefoedd newydd a daear newydd. Y cyfnewid a deimla dyn dall, wrth gaffael ei olwg, nid yw yn ychwaneg na'r cyfnewid a deimlais i y pryd hwn.— Dyma yr amser yr argyhoeddwyd fi gyntaf o'r pechod o anghrediniaeth ac o goleddu meddyliau culion, cyfyng a chaled am yr Hollalluog. Cefais y cyfryw olwg ar Grist fel ein Harchoffeiriad, ag a lanwodd fy enaid â syndod, ac â llawenydd annhraethol a llawn o ogoniant. —Y golygfeydd gogoneddus, a agorwyd y pryd hyn i'm llygaid, a lwyr foddhant fy enaid filiwnau o flynyddoedd i ddyfod yn yr adfyfyriad arnynt. Yr oedd genyf o'r blaen ryw dyb am wirioneddau yr Efengyl yn nofio yn fy mhen; ond ni threiddient gyda nerth a grym dwyfol i'm calon hyd y pryd hwn."[1]
Y cyfryw oedd yr argraff a wnaed ar feddwl Charles, fel y nodai y dydd hwn bob blwyddyn yn ei Ddyddiadur. Cawn y sylwadau hyn am y flwyddyn 1780: —"Ion. 20. Y mae pob dychweliad o'r dydd dedwydd hwn yn adfywiol i'm henaid. Y coffadwriaeth o'r trugareddau a dderbyniais, ni ddileir byth o'm meddwl."—[2]Ac mewn llythyr, yn yr un flwyddyn, at y Fun rhagorol hòno, a briododd wedi hyny, dywed fel hyn am Rowlands:—"Yr wyf yn cydfeddwl a chwi, mai nid y Bala bach yn unig, ond Cymru hefyd, sydd wlad wedi ei breintio yn fawr iawn. Y cyhoeddydd oedranus hwnw, o eiddo Brenin y gogoniant,