Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bethau Duw, er syndod, a'r effeithioldeb mwyaf ar ei wrandawyr."[1]

Yn yr un Rhifyn o'r "Drysorfa" cyfarfyddwn a'r "ail Ymddiddan rhwng Scrutator a Senex;" a sonir ynddo am Rowlands: a dywed Senex,—"Yr oedd gweinidogaeth y gwr hwn, fel y gwyddoch, yn ardderchog dros ben, ac yn rhagori yn ei mawredd a'i hawdurdod ar neb a glywais erioed. Yna dywed Tud. 136. eilwaith fel y canlyn:—[2]

"Llangeitho, yn y dyddiau hyny, oedd cyrchfan yr holl grefyddwyr. Yr oedd y rhan fwyaf o'r pregethwyr yn cydgyfarfod yno bob sul pen mis. Yr oedd hyny, ynghyda gweinidogaeth odidog Mr. D. Rowlands, yn peri i grefyddwyr heidio yno o bob parth o'r wlad. Oddiyno yr oedd y ffrydiau ffrwythlawn yn dylifo yr amserau hyny dros yr holl wlad. Byddai ailadrodd y pregethau a glywent gan y teithwyr ar eu dychweliad, yn eu taenu trwy y gwledydd, ac yn cynhyrfu ereill i fyned i wrando y weinidogaeth oedd yn cael ei thraddodi yno. Yr oedd doniau ac arddeliad Mr. Rowlands y fath nas dichon gwrandawyr yr oes bresenol gynhwys dim amgyffred addas amdanynt. Nid os neb nas gwrandawodd ef a ddichon ddychymygu dim yn addas amdanynt. Cyffelybais ef yn aml yn fy meddwl i'r Tachmoniad hwnw ymhlith cedyrn Dafydd efe oedd y penaf o'r tri cyntaf, ac er godidoced oedd y lleill, eto ni chyrhaeddasant at y tri cyntaf. Oh! rhyfedd y fath awdurdod a dysgleirdeb oedd gyda ei weinidogaeth, a'r modd rhyfedd yr effeithiai ar y gwrandawyr. Gwedi gwrando pregeth neu ddwy ganddo, ai y werin

  1. Yr un Tud. 103
  2. Yr un Tud. 137.