i'w hamrywiol deithiau meithion, yn llon eu meddwl ac yn ddiolchgar i'r Arglwydd am ei ddawn annhraethol."[1]
Llwyr gydunol â'r hyn a draethir uchod ydoedd golygiadau y diweddar Barchedig David Griffiths, o Nevern. Yr oedd ganddo yntau y meddyliau mwyaf am ragoriaethau Rowlands. Yr oedd Griffiths eihun [2] yn meddianu doniau tra godidog, yn rhagori ymron ar bawb a gefais y fraint o glywed erioed. Nid oedd ond ieuanc yn nyddiau diweddaf Rowlands, ond yr odd Rowlands yn hoff iawn ohono, gan y byddai ganddo gymhwysderau mawrion fel gweinidog.
Tra yn nghyfeillach Griffiths, dywedodd wrthyf ar un tro am ymddiddan a gymerodd le rhyngddo ef â'r Parchedig H. Foster, offeiriad duwiol iawn a thra adnabyddus yn Llundain, yn yr oes ddiweddaf. Galwodd Griffiths ar Foster yn Llundain ychydig amser gwedi marw Rowlands. Yr oedd Foster wedi clywed pethau go hynod am Rowlands, a gofynodd i Griffiths, ai gwir oeddynt. Y pethau a glywodd oedd ynghylch ei hynodrwydd fel Pregethwr. Sicrhaodd Griffiths iddo, nad allasai braidd glywed dim tuhwnt i'r gwir amdano yn yr ystyr hyny, gan ddywedyd, mai Rowlands oedd y Pregethwr mwyaf a godidocaf a glywodd erioed. Parodd hyn syndod i Foster, a chwenychai wybod yn mha bethau yr oedd ei ragoriaeth yn gynhwysedig. "Wel," meddai Griffiths, " y mae gyda chwi yma wyr duwiol, ac ardderchog, a lefarant gyda godidowgrwydd hynod; ond y maent yn rhagori yn unig mewn rhai pethau, megis Romaine, wrth drin ffydd a'i gwrthddrych mawr: ond
- ↑ Yr un tud. 137
- ↑ Gwel attodiad F