a'r llawenydd tufewnol a deimlent: a byddai hyn yn aml i'w weled.
Yr oedd bywiogrwydd ei feddwl a chyflymdra ei amgyffred, yn peri na fyddai segur pa le bynag y byddai.[1] Yr oedd yn manwl graffu ar bob peth o'i rwydd ei amgylch, ac yn troi pob peth i ateb y dyben mawr oedd ganddo yn wastadol mewn golwg, sef pregethu yr Efengyl. Yr oedd, fel y Salmydd, yn myfyrio yn aml ar weithredoedd creadigol Duw, ac yn dal manwl sylw arnynt: a benthyciai y pethau bynag a allai eu haddasu er egluro gwirioneddau ysprydol. Beth bynag a ymgynhygai i'w feddwl wrth rodio, neu wrth deithio, neu wrth ymddiddan, defnyddiai hyn yn ei bregethau er eglurhau rhyw athrawiaeth neu ddyledswydd neu gilydd. Pethau o'r fath hyn, adnabyddus i bawb, a atebant ddau ddyben pwysfawr—tynant sylw—a chynhorthwyant y deall.
2. Yr oedd yn berchenog â'r gof hynod. Tra helaeth oedd y gynneddf hon a gyfranasid iddo, a thra defnyddiol ydoedd yn y gwaith gweinidogaethol. Hyddysg iawn oedd yn yr Ysgrythyrau; a gwyddai, fel y dywedodd ei Fab wrthyf, yr holl Fibl ymron i gyd ar ei dafod; ac na ellid sôn braidd am un testun, na wyddai, nid yn unig y bennod, ond hyd yn nod yr adnod y byddai ynddi. Yr ygrythyrau yn ddiau oeddynt ddefnyddiau ei fyfyrdod yn gyffredin. Nid oedd ei Lyfrgell yn cynhwys ond ychydig o Lyfrau: a'r ychydig hyny oeddynt ysgrifeniadau rhai o'n rhagorol Ddiwygwyr, a'r cyfryw a unent â hwynt yn mhethau sylfaenol crefydd. Esgob Andrews