Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Lyfrau Josua, Barnwyr, a Ruth. Dywedwyd yn barod pa lyfrau o'r Testament Newydd a gyfieithodd i'r Gymraeg. Ysgrifenodd hefyd Lythyr at y Cymry, a osodwyd oflaen y Testament hwn. Dengys y Llythyr hwn ddysgeidiaeth helaeth, a brydedd gwresog a difrifol dros achos gwir grefydd. Dywed ynddo i " Weddi yr Arglwydd, y Credo, a'r deg Gorchymyn," gael eu cyfieithu a'u cyhoeddi o'r blaen gan un Syr John Prys.

3. Y Parchedig Thomas HUET.

Pa amser y ganwyd ef, nis caf allan. Bu farw yn y flwyddyn 1591. Yr oedd yn gantor Ty Ddewi, a Pheriglor Cefnllys a Diserth, yn sir Faesyfed. Ei gymeradwyaeth fwyaf yw, bod o hono yn gynhorthwyol yn nghyfieithad cyntaf y Testament Newydd.

4. Wiliam MORGAN, D.D. Esgob Llanelwy.

Dyma y gwr i'r hwn y perthyn yr anrhydedd a'r hynodrwydd canmoladwy, o argraffu yr holl Fibl gyntafyn Gymraeg; ac i'r hwn y dylai y Cymry oll deimlo y rhwymedigaethau mwyaf diolchgar. Ganwyd y gwr rhagorol hwn yn Ewybrnant, Penmachno, sir Gaernarfon: ond cafodd ei ddwyn i fynu yn Nghaergrawnt (Cambridge). Yroedd yn Ficar Llanrhaiadr-yn-Mochnant, pan oedd wrth y gwaith o gyfieithu y Bibl. A chymaint oedd grym pabyddiaeth