Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hollol i'r gwrthwyneb; gorlymai a chyflymai ef yn hynod.

4. Yr oedd yn feddianol ar lais treiddiol a pheraidd. Nid uchel ydoedd ei leferydd, ond yn dra eglur; nid yn seinfawr, ond yn dreiddiol. Yr oedd ei lais yn fain, ond nid yn wichaidd; yn llym, ond nid yn hynod, erwin. Ni fyddai byth yn bloeddio ar antur, er y byddai yn llefaru gydag egni rhyfedd. Gwaeddi yn faldorddus ac yn annyben, ni wnai un amser. Nid oedd dim yn ei lais na'i agweddau, a allent dramgwyddo y rhai manylaf, a mwyaf hoffus o weddeidddra yn mhob ystyr. Ond yr oedd ei leferydd yn neillduol foddhaus a deniadol, yr hyn nad allai neb braidd lai na 'i fawr hoffi a'i gymeradwyo. Torai eiriau yn y modd mwyaf trefnus a gweddaidd, a wnaed, efallai, gan neb erioed, heb un gradd o fusgrellni, esgeulusdra neu fursendod.

Ond nid eglur, gweddus a threiddiol, yn unig ydoedd ei lais: eithr perthynai iddo, yn enwedig ar Pereidd-dra brydiau, bereidd-dra a thoddedigrwydd anghydmarol. Pan y byddai y tymherau wedi eu mawr gynhyrfu, ei leferydd a bereiddiai yn dra hynod. Yr oedd yn treiddio ac yn toddi ar yr un amser. Diamheu y defnyddia Rhoddwr pob rhodd dda, a berthyn i'r corph yn gystal ag i'r enaid, y gynheddf hon, fel y cynheddfau eraill, megis cyfrwng i drosglwyddo i bechaduriaid ei fendithion achubol. Addasa ei offerynau i ateb dybenion rhadol a goruchel.

Gwnaf sylwi, yn yr AIL le, y purid ac y cynhysgaeddid cynheddfau ei enaid i raddau helaeth iawn,