Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a chymhwysid hwynt gan Dduw, i'r gwaith goruchelaf ar y ddaear.

Nid grym galluoedd yr enaid, ond eu tuedd a'u gorchwyl, y mae rhad Duw yn fwyaf neillduol yn gyfnewid. Gall fod genym ddeall ac amgyffred helaeth, cyflym a dirnadol, a theimladau cryfion, heb fod gwrthddrychau eu sylw a'u hoffder yn cydweddu â phurdeb, ac felly yn gydunol ag anian ac ewyllys berffeithlan y Goruchaf. Adferu dyn i ddelw santaidd Duw sydd yn ei addasu i waith a gwasanaeth Duw: a gwir yw bod yr adferiad hwn yn fodd hyd yn nod i gryfhâu, mewn rhan, ei gynheddfau eneidiol. Ond rhaid bod eu cryfder neillduol yn nghyfansoddiad anian eihun, yn ol gwaith creadigol Duw. Eu hadgyweiriad i'w hiawn drefn ydyw yr hyn a effeithia dwyfol rad. Cynhysgaeddid Rowlands yn ddiau wrth natur â deall cryf a dirnadol; a thyma sail yr ucheledd a'r mawreddusrwydd oeddynt yn dynodi ei syniadau wrth drin pethau gogoneddus Duw. A gwreiddyn yr hyfdra a'r awdurdod â pha rai y traddodai wirioneddau dwyfol, ydoedd y sylweddoliad, a gyfranai Duw i'w feddwl, o'r pethau a draethai, Eglurid hwynt iddo yn ddiau yn y fath fodd ag y sefydlid yn ei feddwl y grediniaeth gadarnaf, heb unrhyw ysgogiad amheuus. Y pethau a glywodd, a welodd, ac a deimlodd, ydoedd y pethau a gyhoeddai mor awdurdodol.

Y cyfryw oedd ei amgyffrediadau sylweddol o bethau Duw, ar amserau, fel nad allai natur braidd ddal tanynt. Fel yr ydoedd ar un tro yn pregethu yn Llancwnlle, darfu ei olygiadau effeithio yn rhyfedd