Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nid yn unig wylo a wnai; ond y dagrau a ffrydient dros ei ruddiau.

Sylwaf, yn y TRYDYDD lle, ddarfod i Dduw roddi arddeliad hynod a helaeth iawn i'w weinidogaeth.

Er cymaint ei gymhwysderau a'r doniau mawrion a rad ganiatawyd iddo, ni fuasent o un defnydd parhaus heb i Dduw roddi y cynnydd. Y fendith ag oedd yn cydfyned â'r weinidogaeth a wnaethai ei ddoniau mor rhagorol a chymeradwy. Pan weithredo yr Yspryd yn rymus, fe ymddengys y dawn mwyaf Arddeliad cyffredin yn dra ardderchog; pa faint mwy, pan fyddo y dawn yn rhagorol. Ond er y cwbl yr arddeliad yw y peth mwyaf. Gwna hyn gynhyrfu a mwyhau y doniau; a'r doniau, yn cael eu harferyd yn ddiwyd ac yn egniol, ydynt yn foddion, yn llaw Duw, i lwybreiddio yr arddeliad. Yr angen anhebgorol am fendith y nef, er effeithioli y gair, a arosai yn ddwfn, ac yn wastadol, ar feddwl Rowlands. Am hyny, yr oedd gweddio yn beth mawr iawn yn ei olwg.

Dywedir yr hyn a ganlyn amdano, pan oedd ar un tro i bregethu yn Llanbadarn-odyn. Saif yr Eglwys hon ar fan go uchel, ar ochr arall o'r glyn lle yr oedd preswylfod Rowlands. Nid yw ymhell oddiwrtho, gan y gellid yn hawdd ganfod ei dy o fynwent yr Eglwys. Ymgasglasai y bobl fel arferol, cyn y pryd, yn lluosog iawn. Fel yr oeddent yn sefyll o gylch yr Eglwys, gwelent Rowlands yn dyfod o'i dy ar ei draed, ac yn croesi yr afon fechan, a redai trwy y dyffryn: a phan nesaodd at odre codiad y bryn, collasant eu golwg arno, oherwydd y coedydd, a