Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sefyllfa y tir. Gan na ddaethai i'r golwg drachefn yn ol eu disgwyliad, a chan fod yr amser weithian i'r gwasanaeth ddechreu wedi myned heibio, aeth rhai ohonynt i wared, fel y gwybyddent beth a ddaethai ohono: ac wrth fyned gydag ochr y goedwig, gwedi edrych yn fanol o'u cylch, gwelent ef ar ei liniau ymhlith y coed, ychydig o ffordd allan o'r llwybr. Gan fod yr amser wedi myned heibio, a chymaint yn disgwyl, tybiasant yn addas nesau ato. Pan ganfu hwynt, cyfododd yn ebrwydd oddiar ei liniau, ac aeth gyda hwynt, gan ddywedyd fod yn ddrwg iawn ganddo ei fod tuhwnt i'w amser; ac meddai, "Mia gefais, frodyr anwyl, oedfa felys yn y lle yna." A hyn a gafodd ei amlygu wed'yn, gan iddo draddodi ei genadwri mewn modd hynod a godidog iawn.

Wrth ddybenu y dosparth hwn, gwnaf ailadrodd Whitfield. yr hyn a ddywed y Doctor Southey am Whitfield, yn hanes bywyd Wesley, gan y gellir ei gymhwyso yn wirioneddol at Rowlands. Nid yw y Doctor yn dueddol i ddweud dim yn gymeradwyol am Whitfield; ond cymer bob achlysur i'w iselhau; a hyny yn amlwg, oherwydd ei wrthwyneb cryf i rai o'i ddaliadau. Ac eto dyma y modd cywir a godidog y dywed amdano fel pregethwr, a gellir arfer yr un geiriau am Rowlands:—

"Darfu i ddyn anllythyrenog ddarlunio ei hyawdledd yn od, ond eto yn rhyfedd, pan ddywedodd, 'y pregethai fel llew.'[1] Ni wna cydmariaeth mor anghynefin drosglwyddo syniad anaddas o rymusder, a thanbeidrwydd, a gwyniasedd yr areithiad hwnw, a

  1. Gwel attodiad I