trawydolai y gwrandawyr, ac a barai iddynt grynu fel Felix ger bron yr apostol. Canys, yn credu eihun yn genad Duw, wedi ei awdurdodi i alw pechaduriaid i edifeirwch, llefarai, fel un ymwybodol o'i oruchel ymddiried, 'gydag awdurdod a nerth; eto, yn ei holl bregethau, yr ydoedd tosturi gwresog a thoddedig, difrifoldeb cymhell, ymarllwysiad o gariad gorlanwol, yn cyfranogi o rinwedd y ffydd hono oddiwrth yr hon y dylifai, yn gymaint ag fel yr ymddangosai ei bod yn myned i mewn i'r galon a drywanai, a'i hiachau megis â balm.[1],
RHAN. V.
Sylwadau Gorphenol.
Nid derchafu dyn, ond rhad Duw yn y dyn, a ddylai fod dyben pob hanes o'r fath hyn. A gall fod y cyfryw yn ddefnyddiol er dangos i ni y fath offerynau, a'r fath gynysgaeddiadau, y mae Duw yn arferyd, er dwyn yn y blaen ei waith mawr. Gall yr olwg hyn beri i weinidogion eto, ymdrechu am y cymhwysiadau hyny, a ganfyddant eu bod wedi cael eu cyfranu i eraill, a'r rhai a ddefnyddiai Duw yn y gorchwyl mawr o ddihuno pechaduriaid, a'u dwyn i gymod ag ef eihun. Os ewyllysia neb rhai fod yn ddefnyddiol yn y weinidogaeth, rhaid iddynt geisio y cymhwysderau a arfera y Goruchaf eu cyfranu, pan y byddo ar helaeth dywallt ei fendithion er troedigaeth pechaduriaid. Gall Duw wneuthur y moddion neu yr offerynau a fyno, yn effeithiol i'r dyben hwn;
- ↑ Hanes bywyd Wesley, llyfr i. Tud. 150