o'r byd, a'u gosod ar bethau uchod, a'r holl ddyn, yn ei yspryd, buchedd a'i ymarweddiad, yn cael ei wneuthur yn "greadur newydd." Cyfiawnhad hollol radaidd, yn unig trwy ffydd yn y Cyfryngwr bendigaid, ynghyda santeiddhad gwirioneddol trwy weithrediad yr Yspryd Glân, a ddysgai yn ddiwyd, a gyhoeddai yn egnïol, a eglurai yn amlwg, a dystiolaethai yn barhaus, ac a amddiffynai yn nerthol ac yn gadarn, trwy ei holl fywyd gweinidogaethol, gan gadw yr un llwybr, heb wyro ar y ddeheu nac ar yr aswy. Ei ddysgawdwr a'i arweinydd yn ddiau ydoedd Duw, yr hwn sydd ddigyfnewid, a'i wirionedd felly hefyd a'r rhai oll a ddysga ac a arweinia, y mae Efe yn eu cadarnhau ac yn eu sefydlu yn ei wirionedd anghyfnewidiol.
Dyma y drych a rydd ei Farwnadydd godidog o hono. Dywed amdano fel un a gadwodd ei le yn gyfangwbl, ac na ddarfu iddo goleddu un math o gyfeiliornad a ddygasid i mewn, ond ei wrthwynebu yn ddiarbed. Hyn a draetha yn y llinellau canlynol:—
Ac fe wibiodd amryw ddynion,
Rhai ar aswy, rhai ar dde;
Ond fe gadwodd arfaeth nefol
Rowlands onest yn ei le:
A phwy bynag gyfeiliornai
O wiw lwybrau dwyfol râs,
Fe ddadguddiai eu cyfeiliornad,
Hyd nes gwelai pawb hwy 'n gâs.
Addas yw dywedyd, wrth orphen, air neu ddau ynghylch ei farwolaeth. Ei ddymuniad a'i weddi oedd, na fyddai iddo fod yn hir ar ei glaf wely. Yr oedd ef a Whitfield yn gyffelyb yn hyn: canys dyma