adnabyddus i'r gynnulleidfa, yr hon genadwri a'u gorlanwodd â'r fath alar, fel nad allent fyned ymlaen â'r addoliad. Aeth y bobl ymaith gyda brys i hysbysu i'r cyfeillion absennol y newydd athrist, fel y cydunent i ymbil ar Ben mawr yr eglwys am iddo dosturio wrth ei amddifadedig bobl, ac adgyweirio y golled a gawsent. Dyma yr amgylchiadau yn y rhai y galwyd y gwr enwog hwn i'w orphwysfa; ac er nad yw Llangeitho yn bresennol yn cael cyrchu iddi gan gynnifer o filoedd o bell, etto y mae yn Nghapel Gwynfil gymdeithas o dri chant o aelodau; ac y mae'r goleuni ag y bu Mr. Rowlands yn offerynol i'w gynneu yn Nghymru, etto yn parhau i ddysgleirio, a gobeithio na ddiffydd byth."
Galar mawr, a hynod fawr, fel y gellid disgwyl, a deimlid ar yr achos. Yr ydoedd llaweroedd, nid yn unig yn nghymydogaeth Llangeitho, ond trwy Gymru oll, ie, trwy Gymru oll, yn teimlo iddynt gael colled fawr. Yr oedd ei harweinydd penaf ar y ddaear wedi ymadael. Yr oeddynt wedi colli un a fuasai yn dad anwyl, caredig a magwriaethol iddynt dros flynyddau meithion. Bu i laweroedd iawn yn offeryn eu troedigaeth, ac i fwy fyth, yn feithrinydd anghydmarol. Ond yr hyn sydd yn cymedroli pob galar o'r fath hyn, yw, fod ffynon pob daioni, yn ddiddarfod, ac yn parhau fyth yn llawn, er diwallu pob cyfreidiau.