Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn rhai ohonynt, fel na anturiasant, neu, na chwenychasant gymeryd y gwaith mewn llaw. Yr oedd calon at y gwaith yn eisiau. Y mae y Doctor Llywelyn, yn ei "Hanes," yn Saesneg, "o gyfieithiadau ac argraffiadau o'r Bibl yn y Gymraeg," yn gwneuthur ei oreu, yn ei garedigrwydd, i esgusodi yr Esgobion hyn; ond nid, fel y tybiaf, yn unol a'r hyn a ddywed y Doctor Morgan, yn ei gyflwyniad i'r Frenhines, a osododd o flaen ei Fibl. Y geiriau y cyfeiriaf atynt ydynt y rhai canlynol:—

Quod idem nostram ignaviam et segnitiem si mul prodit; quòd nec tam gravi necessitate mo veri, nec tam commodâ lege cogi potuerimus, quin tam diu res tanta (quâ majoris esse mo menti nihil unquam potuerit) intacta pene re manserit.—"Yr unrhyw beth [sef, deddfiad y senedd] a amlyga, ar yr un amser, ein seguryd, a'n diogi; am na allem gael ein cynhyrfu gan angenrheidrwydd mor fawr, na 'n cymhell gan ddeddf mor fuddiol; ond darfu i orchwyl cymaint (na'r hwn nis gallasai fod un yn fwy) aros cyhyd heb neb ymron i gyffwrdd ag ef." Seguryd a diogi, oeddynt rai o'r achosion, fel y dywed y Doctor Morgan. Yr oedd difrawder o ran yr ysgrythyrau yn gyffredin yn y wlad, ac yn llawer, wrthwynebiad llwyr iddynt.

Gallwn feddwl oddiwrth yr hyn a ddywed y Doctor yn ei gyflwyniad, fod peth arall hefyd