Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bernir yn fynych am ragoriaeth un fel pregethwr, wrth y pregethau a gyhoedda; ond nid yn uniawn y bernir felly. Gellir gweled yn ddiau wrth hyn pa fath athrawiaethau a draddoda, a pha drefn a arfera wrth eu trin. Ond ni ellir yn y modd hyn gymaint ag amcanu yn aml am hyawdledd a doniau yr areithydd. Ni chred rhai y pethau hynod a ddywedir am Whitfield, am na welant un peth rhagorol hynod yn ei bregethau. Felly y gall rhai farnu ynghylch Rowlands. Ond nid barn iawn ydyw. Dull, agwedd, nerth, yspryd a bywiogrwydd, ynghyda pharodrwydd ymadrodd, a grym a phereidd-dra y llais; ac yn enwedig, yr arddeliad dwyfol a fyddo yn cydfyned â'r cwbl, ydynt y pethau a wnant y rhagoriaeth mwyaf mewn Pregethwr: ac ni chanfyddir dim o'r rhai hyn mewn llythyrenau argraffedig.

Er nad yw rhagoroldeb ei bregethau ddim yn gyfatebol i'w ragoroldeb fel pregethwr, eto nid cyffredin yw eu rhagoriaethau. Y mae ynddynt nid yn unig athrawiaethau ysgrythyrol; ond gosodir hefyd y Nodwedd rhai'n allan mewn ffordd eglur iawn, dwysaidd iawn pregethau. a chynhyrfiol iawn. Nid yw efe ddim yn myned oddiamgylch ogylch y pethau sydd ganddo mewn llaw: ond gafaela ynddynt yn uniongyrchol, a dengys hwynt yn y geiriau amlycaf. Nid yw yn aros yn hir ar un peth, dim chwaneg na 'i wneud yn oleu ac yn eglur; ond â rhagddo at beth arall, gan gyfnewid