erioed ei gyffelyb yn Eglwys Loegr, ond Mr. Griffith Jones. Ni bu yn ein dyddiau ni y fath oleuni ymhlith pobl yr Eglwys."
ATTODIAD B.[1]
Darfu y Parchedig W. Wiliams ysgrifenu o blaid neidio, gan ymdrechu i gadarnhau yr arfer trwy gyfeirio at amryw fanau o'r ysgrythyr. Pan iawn ystyrir yr arfer, nid oes ynddo un peth croes i ymarferiadau duwiolion gynt, nac i effeithiau priodol ysgogiadau cryfion ar anian dyn. Diarferiad cyffredin yw yr achos penaf nas cyfrifir yn gymhwys nac yn weddus. Dywedir i wr cyfrifol ymresymu ar un tro â W. Wiliams i'w anghefnogi. Soniodd am ei anweddeidd-dra, ac ynghylch neidio. am fod llawer a arferent neidio wrth folianu, wedi gwrthgilio a myned yn ol i'r byd drachefn. Gwrandawodd Wiliams yn graff ar yr hyn oll a ddywedai, ac yna atebodd ef yn y modd canlynol:—"Yr oedd yn byw," meddai, "a'r ochr yr un mynydd ddau ddyn a gwraig, a ddechreuasant eu byd ymron yr un amser. Eu henwau oedd Evan, Betty, a Thomas. A darfu pob un ohonynt fenthyca can punt pan aethant yno i fyw. Yr oeddynt yn meddwl y gallent, trwy ddiwydrwydd a chynildeb, dalu yn ol yr arian hyn mewn amser. Ond yn lle llwyddo, aflwyddo yn fawr a wnaeth y tri; a bygwth cyfraith a wnaed arnynt. O'r diwedd daeth y beiliaid ar Evan i'w ddal, a'i roi yn y carchar. A thra yr oedd efe yn myned gyda hwynt heibio i dy Syr John Goodman, yr ochr arall i'r mynydd, cyfarfuant a Syr John eihun. "Wel" meddai Syr John, "I ba le yr wyt ti yn myned,
- ↑ Tudalen 32.