Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/138

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Evan"? —"Fel y mae gwaetha' y modd, Syr John," atebai Evan, "yr wyf yn gorfod myned i'r carchar am ddyled; a rhaid i mi gyfaddef, mai cyfiawn y gwneir â mi; canys y mae y ddyled arnaf, ac nid oes genyf ddim i dalu, na gobaith chwaith i ddyfod o'r carchar mwy."—"Ai ê, yn wir," meddai Syr John," y mae yn ddrwg iawn genyf glywed. Pa faint yw dy ddyled"?" Fy nyled sydd yn gàn punt, heblaw y costau."—" Wel, Evan," meddai Syr John, "mi a dalaf dy ddyled": ac yna dywedodd wrth y beiliaid, "Yr wyf fi yn ymrwymo i dalu ei holl ddyled, a'r costau hefyd: gadewch iddo fyned yn rhydd." Nid hawdd dychymygu llawenydd a diolchgarwch Evan ar hyn. Gwedi dangos yn y modd mwyaf teimladol pa mor ddiolchgar ydoedd i Syr John, dychwelodd tuag adref; a phan gyrhaeddodd ael y bryn, uwchlaw ei anedd, gwaeddodd â'i holl egni, "Diolch, diolch i Syr John Goodman—Diolch i Syr John Goodman. Clywodd a chanfu Betty ef, a synodd yn fawr iawn, gan dybied ei fod yn wallgofus. Ond aeth i fynu ato i wybod yr achos; a phan draethodd efe yr hyn a wnaethai Syr John iddo, yna hi a unodd ag ef, gan waeddi, "Diolch, diolch i Syr John Goodman." Yna Tomas a'u canfyddodd, wedi eu clywed yn bloeddio fel hyn. Aeth yntau i fynu, gan chwenychu gwybod beth oedd y mater. A phan ddywedodd Evan wrtho am ymddygiad hynod Syr John, ymunodd yntau â hwynt, gan waeddi, ynghydag Evan a Betty, "Diolch, diolch, diolch i Syr John Goodman." Ond ymhen ychydig amser bu gofyn ar Betty a Thomas am yr