arian: a chan nad oedd ganddynt ddim i dalu, tafiwyd hwy i'r carchar, ac yno y buont farw ill dau." Dyben eglur y dychymyg hwn yw dangos yr achos mawr sydd gan y rhai y meddeuwyd eu pechod i lawenhau, a pha fodd y mae, fod llawer yn ymuno ag ereill yn eu llawenydd heb gael meddeuant euhunain. Y mae crefydd. dilyn yn beth tra chyffredin mewn crefydd, a dim ond dilyn, nid yn unig yn hyn, ond mewn llawer o bethau eraill. Nid yw crefydd gormod o bobl ddim ond gwneud fel y gwna eu cyfeillion a'u cymydogion.
ATTODIAD C.[1]
Yr oedd achos y pryd hyny am hir bregethu, gan fod cymaint o anwybodaeth, a phregethu yn gyffredin mor anaml, yn enwedig, y cyfryw bregethu a allai wneuthur un gwir les i ddynion. Cof gan yr awdwr ei fod yn cydfyned, ychwaneg nag ugain mlynedd yn ol, â'r diweddar Barchedig a thra rhagorol David Griffiths o Nevern, i Eglwys yn agos i Aberteifi, ac wrth ymddiddan, dywedodd y gwr hy
nod hwnw wrtho, ei fod yn cofio iddo bregethu yn ei bregethn ddyddiau boreuol yn yr Eglwys hòno, a darfod iddo am un tro barhau i bregethu dros bedair awr i gynulleidfa na chynhwysai yr Eglwys mo 'u haner, a bod gwrando difrifol a diflino arno dros yr holl amser hwn. Dyddiau hynod oedd y dyddiau hyny. Yr oedd nerth a bendith yn cydfyned â'r gair mewn mesur nad oedd gyffredin.
ATTODIAD D.[2]
Am ddechreuad y cymdeithasau hyn, dywed H. Harris yn y modd canlynol:—
"Tua diwedd y flwyddyn hon (1736) aeth dyn