yn achos o'r esgeulusdod hyn. Yr oedd chwenychiad o ran amryw uchelion, esgobion ac eraill, i beidio rhoi y Bibl yn Gymraeg i'r Cymry, gan feddwl y byddai iddynt mewn amser arferyd yr un Saesneg. At hyn y cyfeiria yn y geiriau a ganlynant:—
Si qui, consensûs retinendi gratiâ, nostrates, ut Anglicum sermonem ediscant, adigendos esse potiùs, quàm scripturas in nostrum sermonem vertendas esse volunt; dum unitati student, ne veritati obsint, cautiores esse velim; et, dum concordiam promovent, ne religionem amoveant, magis esse sollicitos optc—"Os ewyllysia neb, er mwyn cadw cydsyniad, i'n cenedl ni gael ei gyru i ddysgu yr iaith Saesneg, yn hytrach nag i'r Ysgrythyrau gael eu troi i'n hiaith, ewyllysiwn iddynt fod yn fwy gochelgar, rhag rhwystro ohonynt y gwirionedd, wrth fod yn awyddus am undeb; a dymunaf arnynt fod yn fwy gofalus, rhag, wrth ddwyn ymlaen gyduniad, y gyront ymaith grefydd." Mor addas ac mor ddoeth hefyd yw y geiriau hyn:—
Non dubium est, quin religionis quàm sermo nis ad unitatem plùs valeat similitudo et consen sus. Unitatem prætereà pietati, utilitatem religi oni, et externam quandam inter homines con cordiam eximiæ illi paci, quam Dei verbum humanis animis imprimit, præferre, non satis pium est.—"Nid oes amheu, na lwydda