oddiamgylch (sef yn ei gymydogaeth yn Nhrevecca) i ddysgu yr ieuenctid i ganu Salmau. Gweinyddodd hyn i mi gyfle arall i amlygu fy nghariad tuagat fy anwyl gydbechaduriaid: oherwydd bod y bobl yn ymgynull i ddysgu ac i wrando canu, ni wnaed un gwrthwyneb mwy i hyn nag i ymgynulliadau er mwyn ymladd ceiliogod, dawnsio, &c. Ymafaelais yn y cyfle hwn: pan ddiweddai y dyn eu dysgu i ganu, rhoddwn inau iddynt air o gyngor; a thrwy hyny, llawer ohonynt a ddygwyd dan argyhoeddiadau: a thrwy hyn amryw o gymdeithasau crefyddol a ffurfiwyd. Dechreuais hwynt yn ol cynllun y cymdeithasau a sonia Dr. Woodward amdanynt yn y traethawd bychan a ysgrifenodd yn eu cylch. Nid oedd eto gymdeithasau o'r fath yn Lloegr nac yn Nghymru. Ni chlywid eto ddim am y Trefnyddion yn Lloegr, er bod yr Arglwydd, fel y gwybyddais wed'yn, yn gweithio ar rai y pryd hyn yn Rhydychen a manau ereill."[1]
Mae yn ymddangos, oddiwrth hanes bywyd H. Harris, i'r cymdeithasau hyn yn fuan gynhyddu ac ymledu dros amryw barthau o'r wlad. Rhoddir ini, yn yr hanes hwn, gyfran o ddyddiadur (journal) Whitfield, am Fawrth, 7fed 1739, lle y sonia am yr ymweliad cyntaf a gafodd â H. Harris, am yr hwn y dywed y pethau canlynol:
"Y mae Efe (Harris) yn awr uwchlaw pump ar hugain oed. Ymgeisiodd am gael urddau ddwywaith; cymhwys yw yn mhob ystyr: ond nacáwyd iddo, tan yr esgus anwireddus, nad oedd mewn oedran, er ei fod ar y pryd yn 22 oed a chwe mis. Yn nghylch misyn ol, cynhygiodd eihun drachefn; ond
- ↑ Han. byw. Harris, Tud 23, &c.