Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/144

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'i addasrwydd fel Blaenor ac Arweinydd yn achos crefydd.

II. Nid bychan oedd ei ddawn dirnadol. Yr oedd yn helaeth feddu y rhodd o "wahaniaethu ysprydoedd," neu yn hytrach, o ddirnadu ysprydoedd. Deallai yn fuan wir gyflwr a dybenion dynion. Nid oedd odid o hug a allent wisgo yn ddigon i'w cuddio rhag ei lygad craff a thremiadol. Y tro cyntaf, fel y dywedodd wrthyf eihun, yr aethai i Lundain i bregethu yn Nghapel y Foneddiges Huntingdon, digwyddodd yr hyn a ganlyn:—Yr oedd Mr. Hanesyn am Griffiths i bregethu yn y bore a'r hwyr ar y saboth, a'r prydnawnau a wasanaethid yn gyffredin gan wyr ieuainc o Athrofa y Foneddiges hòno. Ar y prydnawn cyntaf a dreuliodd yno, pregethodd un o'r gwyr ieuainc hyn; a phregethodd yr efengyl mor bur, a chyda y fath hyawdledd, nes y parodd fawr syndod i Mr. Griffiths. Tranoeth pan alwodd ef ar y Foneddiges, gofynodd iddo am y modd y pregethodd y dyn ieuanc. Atebodd Mr. Griffiths, ddarfod iddo bregethu yn dra rhagorol, ac y meddai ddoniau hynod. Hi a chwenychai ymhellach wybod beth oed tyb Mr. Griffiths amdano; a chan iddi ei wasgu i draethu ei feddwl, dywedodd wrthi, Mai ei ofn oedd, nad oedd ganddo wybodaeth brofiadol o wir grefydd; a chwanegodd, na fynai i'w dyb ef weithredu yn niweidiol iddo. Ni chymerodd dim ychwaneg le y tro hwn. Ond pan aeth Mr. Griffiths i Lundain y flwyddyn ganlynol, ymofynodd am y gwr ieuainc hwn; a chafodd ei fod, yn lle pregethu yr efengyl, yn traethu maswedd ac oferedd yn un o