Chwareudai Llundain, wedi troi yn Ddynwaredwr (Player). Ni wyddai Mr. Griffiths ddim amdano cyn ei weled yn yr areithfa, ac nid ymddiddanasai âg ef. Canfyddai yn ei bregethu, nad oedd duwioldeb ynddo, er nad oedd dim yn ei bregeth, ond yr hyn oedd lwyr efengylaidd.
Ar yr un amser, sef ynghylch deng mlynedd yn ol, pan dreuliais noswaith gyda mawr hyfrydwch yn ei dŷ, dywedodd wrthyf amryw bethau a ddynodent yn eglur pa fath amgyffred oedd ganddo yn yr ystyr hyn. Crybwyllai am y llawenydd oedd iddo, ychydig flynyddau yn ol, pan gefnogai Esgob Burgess Offeiriaid ieuainc poblogaidd, ac y cyfodai amryw ohonynt o ddoniau tra rhagorol, Ond meddai, "Fy ofn y pryd hyny oedd nad oedd llawer ohonynt yn meddu ar wir dduwioldeb; a phryd bynag y symudid yr Esgob, a threfn arall gymeryd lle, y diweddai eu hymdrech gwresog yn achos yr efengyl; ac nid heb sail yr oeddwn yn ofni, gan fod hyn mewn rhan wedi digwydd. Yr oedd bwriad yr Esgob da yn gymeradwy; ond nid oedd ganddo ddirnadaeth i wahaniaethu rhwng ymddangosiad gwych, a gwir dduwioldeb: am hyny twyllid ef gan amryw. Oherwydd hyn rhoddodd annogaeth i amryw na haeddent ddim; ac esgeuluswyd ereill a feddent yspryd ac ymddygiad gwir dduwiol, er nad oedd ganddynt ddoniau mor boblogaidd."
Wrth ymddiddan âg ef y pryd hwn, gosodais o'i flaen y gofyniad hwn, —" Pa achos a allwn enwi am hyn, sef, bod y rhai a roddant yr argoelion lleiaf o dduwioldeb yn llawer mwy rhwydd a ffraeth