ymddangosiad yn yr areithfa yn barchus, ei lais yn beraidd, a'i lafariad yn rhwydd: ond yr hyn oedd yn ei hynodi oedd yr ymruthriadau, os goddefol y gair, a wnai ar droiau ar y gynulleidfa, fel nad oedd braidd yn ddichonadwy ei wrthsefyll. Nid uchel oedd ei lais ond ar brydiau. Byddai yn amlaf yn llwyr arafaidd yn trin yr hyn a fyddai ganddo mewn llaw mewn modd digyffro, ac eto yn eglur, yn syml, ac yn ddengar. Yr oedd wrth ddechreu, fel pe buasai am gael gafael ar ddeall a sylw ei wrandawyr, ac megys yn darparu y ffordd er dwyn yn y blaen yr hyn oedd yn chwenych argraffu ar eu meddyliau a'u calonau. Fel yr oedd yn nesâu at yr hyn ydoedd fwyaf pwysfawr, yr oedd ei wyneb megys yn dadebru, ei lais yn dyrchafu yn seingar, a'i holl agwedd yn gynhyrfiol; ac yna torai allan mewn modd tra nerthol â'i holl egni, nes byddai ei eiriau yn treiddio trwy yr holl dyrfa. Gwelais ganoedd ar unwaith yn cael eu rhoddi mewn syndod dwys, a'r dagrau yn treiglo dros wynebau llaweroedd. Nid hwy y parhai yr ymgyrch grymus hwn, nag y byddai yn ofynedig: adferai drachefn ei ddull a'i agwedd flaenorol. Cymerai bwnc arall mewn llaw, neu ran arall o'i destun. Nid oedd arno ymron un amser ddiffyg defnydd neu eiriau, er ei fod yn lled araf yn aml wrth ddechreu rhyw fater. Triniai y pwnc nesaf, fe allai, mewn modd gwahanol. Arferai ymadroddiad byr a dwys, gan ddywedyd amryw pethau treiddiol, dengar, a thoddedig. Cymerai ddull ymddiddan mewn llais cyfaddas, eto mewn modd fel pe buasai ei galon yn llefaru. Yr oedd mwy o amrywiaeth yn ei ddull nag a welais yn neb
Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/147
Gwedd