Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/150

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1. Yn ysgrythyrol. Gwir yw hyn, nid yn unig o ran y defnyddiau, ond hefyd o ran y modd o lefaru. Gwirioneddau mawrion yr efengyl ydoedd yn gyhoeddi; a chyhoeddai hwynt mewn mesur helaeth yn ngeiriau yr Ysgrythyr, gan arfer ei hymadroddion, a dilyn ei dull a'i rhediad, a chan gydmaru pethau ysprydol â phethau ysprydol. Ni wnai hyn trwy ddefnyddio gyfeirio yn unig at amrywiol destynau a'u hadrodd; ond dygai hwynt i mewn yn addas ac yn gydwedd, (ond nid yn rhy aml) er egluro neu gadarnhau yr hyn a fyddai ganddo mewn llaw; a hyny yn aml yn y fath fodd ag i daflu goleu hyd yn oed ar y manau y cyfeiriai atynt. Yr oedd y cymhwysiad a wnai ohonynt yn amlygu eu hystyr ddwysfawr, gan ei ddwyn yn fwy i'r golwg. Ei holl ymresymiadau oeddynt a'u sail ar air Duw. "Fel hyn y dywed yr Arglwydd" oedd yr hyn y sefydlai bob peth arno. Traethai y gair fel gair Duw, ac adeiladai arno yr hyn oll a draddodai.

Yr oedd ganddo ddawn nodedig i wneud defnydd o unrhyw hanes ysgrythyrol. Dangosai ei gymhwysiad at amrywiol gyflyrau, a thriniai ef gyd â'r fath ddeheurwydd, cywreindra ac effaith, na chanfyddais yn neb arall. Os cynhwysai y cyfeiriad hanes ymddygiad y duwiol neu yr annuwiol, megys y Publican a'r Pharisead, gwnai, trwy ffordd o ymholiad neu ymddiddan, neu o ymresymu, osod allan y cwbl, mewn modd mor benodol a chyffrous, fel nas gellid llai na sylwi ar yr hyn a ddywedai, a'i gofio hefyd. Er nas gallaf osod i lawr, eto llwyr gofus genyf, y dull godidog a thoddedig y clywais ef, ychwaneg nag ugain