mlynedd yn ol, yn darlunio derbyniad y mab afradlon gan ei dad teimladol. Yr oedd ei bregethu
2. Yn dra eglur a dealladwy. Nid allai neb o'r rhai mwyaf anwybodus lai nag amgyffred ei bregethau, er na chynhwysent ddim ag oedd yn isel, yn wael, neu yn ddistadl, neu nad oedd yn tynu sylw y rhai mwyaf gwybodus. Carai y gwreng yn gystal a'r boneddig, a'r boneddig yn gystal a'r gwreng, ei wrando. Yr oedd godidogrwydd yn ei ddull o lefaru y pethau egluraf, ac eglurder yn y pethau mwyaf godidog a draddodai. Nid rhaid arfer modd dysgedig er enill sylw y dysgedig, wrth draethu pethau Duw, fel y tybia gormod. Y mae gwirioneddau dwyfol mor ardderchog a phwysfawr ynddynt eu hunain, fel na raid iddynt wrth dlysau ac addurniadau o Doethineb waith dyn. Nid yw doethineb ymadrodd byth yn ymadrodd. ychwanegu dim at air Duw, ond yn tynu oddiwrtho; nid yw ddim yn ei ardderchogi, ond yn ei ddistadlu; nid yw ddim yn ei addurno, ond yn ei lychwino; nis gwna ef yn fwy grymus, ond yn fwy gwan; ni wna ei olymu, ond ei bylu. Y gair yn unig yw cleddyf yr Yspryd, ac nid y gair megys wedi ei wychu neu ei oreuro gan ddyfais dyn, er boddloni a goglais clustiau a hoffant seiniau cyson a geiriau hyawdl.
Rhyfeddol y medr oedd gan Griffiths i ddwyn i lawr i amgyffred y gwanaf wirioneddau mawrion a goruchel Duw. Dad-ddyrysai bethau a ymddangosent dyfnion, i'r anwybodus yn ddyrys, goleuai bethau tywyll, a dattodai bethau clymedig, a hyny gyda medrusrwydd priodol iddo eihun. Gosodai athrawiaethau uchelaf a godidocaf yr efengyl mewn goleu mor, glir fel y