cywreinydd, neu lenwi y pen â diles bethau, ond trosglwyddo iawn syniadau i'r meddwl, a thrysorau dwyfol i'r galon. Yr oedd fel un am ymafaelu yn y y gydwybod i'r dyben i'w dadebru, ac fel un a fynai trwy bob modd gymeryd meddiant ar y dyn oddimewn. Yr oedd ei holl agwedd, fel pe dywedasai, ymdrech. "Y mae a fynwyf a thi; dy feddwl, dy gydwybod, dy serchiadau ydynt y pethau a fynaf ymdrin â hwynt." Ymosodai a'i holl egni ar y rhai hyn ar gylch, fel un a fyddai wedi penderfynu llwyddo yn ei mygais a'i orchest, Yr oedd fel milwr dewr yn amgylchu amddiffynfa gadarn, yn arfer pob moddion er ei goresgyn, a chymeryd meddiant o honi.
Yr oedd ei bregethau
Yn rhwydd ac eto yn drefnus. Nid oedd un peth gorchestol yn ymddangos yn ei bregethau, fel pe buasai wedi cymeryd llawer o boen a llafur wrth eu darparu. Ond dylifai ei eiriau mor rhwydd, a'i syniadau mor reddfol, fel pe tarddasent o ffynon orlanwol anhyspydd. Ond er eu bod yn rhwydd ac yn ddiorchest, eto yr oeddynt yn drefnus. Nid oeddynt yn ddiau heb eu darparu, ond wedi eu dwys ddarparu; onidė, ni fuasai ynddynt y fath drefn, na chwaith y fath rwyddineb.
Nid wyf yn meddwl oddiwrth yr hyn a glywais amdano, ac oddiwrth ei bregethu, ei fod yn ysgrifenu onid ychydig o'i bregethau, fe allai, ar droion, y penau, a rhai o'r meddyliau mwyaf neillduol. Gwaith myfyrdod, fel y tybiaf, oedd yn benaf ei bregethau. Clywais ef yn dywedyd iddo wneuthur, ar un tro yn Llundain, bregeth erbyn hwyr y Saboth, wrth glywed