hyn mewn ymddangosiad yn unig; diau y teimlai yn ddwys fawredd y gwirioneddau ag a oeddynt ganddo i'w traethu. Nis gall neb lefaru yn addas am bethau Duw, a phethau enaid anfarwol, heb ganfod a sylweddoli yn y meddwl eu gwerth a'u godidogrwydd, a theimlo eu heffeithiau nerthol ar y galon a'r serchiadau. Pan byddo y meddwl yn llawn o syniadau goruchel, a'r galon o ysgogiadau nefolaidd, bydd hyny yn ddiamheu yn weledig yn y wynebpryd. Geill dynion, rhaid cyfaddef, ddynwared y pethau goreu, er nad yn llwyr effeithiol. Eto, os teimlir pwys y gwaith oddimewn, os bydd dwys ofal am eneidiau yn perchenogi y galon, dengys y wedd hyny, yn reddfol, heb un ymgais. Y gofal a ddylai fod am olygiadau cywir a theimladau addas, yna bydd yr agwedd yn briodol. Yr achos y traddodir pethau tragwyddol yn ddigyffro, heb un argoel yn y wedd o deimlad, ydyw, am na chanfyddir yn iawn eu gwerth, ac am na theimlir ddim o'u pwysfawrogrwydd, neu o leiaf mewn un gradd ddyledus. Rhaid bod dwfr yn y ffynon, cyn y gellir gweled dwfr yn dylifo ohoni.—
Yn ail, helaethrwydd ei ddoniau. Nid dyn un pwnc neu un athrawiaeth ydoedd: ond cyfarwydd oedd â phob darn o ddysgeidiaeth efengylaidd. Rhagorai yn ddiau wrth drin rhai pethau yn fwy na 'u gilydd; ond rhagorai ymron ar bawb ar bob pwnc. Clywais rai yn dywedyd mai yr hyn a ragorai fwyaf arni oedd yr athrawiaeth odidog o gyfiawnhad, a'i fod yn fwy tueddol i'w chymeryd mewn llaw nag un arall.. Er hyny yr oedd yn dangos medr a hwylusrwydd hynod wrth drin unrhyw wirionedd, beth bynag a fyddai,