Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/158

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VI. Gosodaf i lawr hanesyn, ddau neu dri, am ei bregethu.—Y tri pheth a ganlyn a draddodwyd i mi er ys tro yn ol gan offeiriad cyfrifol[1] a glywodd Mr. Griffiths ar yr achlysur a grybwyllir. Yr oedd yn pregethu yn Llangeitho, a'r gwirionedd a driniai oedd gweddi. Yr oedd yn dangos mor effeithiol ydyw, a chadarnhaodd hyn trwy gyfeirio at yr hyn a gymerodd le pan roddwyd Pedr yn ngharchar, ac y gwnaed gweddi trosto gan yr eglwys. "Rhyfedd," gweddi. meddai "yw effaith gweddi. Wele hi yn myned i fynu i'r nefoedd, ac yn dwyn angel Duw i lawr i'r carchar; a phan ddaeth yno, gan daro ei ystlys, gwaeddodd, Pedr, cyfod!" ac wrth ddywedyd y gair diweddaf, tarawodd yr areithfan â'i law, a'i lais a'i olwg yn cydweddu, ac effeithiodd hyn yn dra hynod ar yr holl dyrfa, gymaint a phe gwelsent yr angel yn dihuno Pedr. Pa argraff o effaith gweddi a raid i hyn wneud arnynt? Llawer mwy yn ddiamheu na phe clywsent yr araeth hyawdlaf a draethwyd erioed ar y testyn.

Ar dro arall, ac os ydwyf yn cywir gofio, yn yr un lle, yr oedd yn pregethu ar yr adgyfodiad. Enwodd rai o'r gwrthddadleuon cadarnaf yn erbyn yr athrawiaeth. "Dywed rhai," meddai, "nad yw yn bosibl i'r fath beth gymeryd lle, oherwydd gofynant, Pa fodd yr adgyfodir y cyrph hyny a daflwyd i'r môr, ac a ddifawyd gan bysgod, neu y cyrph hyny a losgwyd ac y gwasgarwyd eu llwch gan y gwynt? Felly y gwrthddadleuir: ond pa mor ofer yw y fath resymau? Pwy ydyw yr hwn a adgyfoda y meirw? YR HOLLALLUOG. EFE," gan estyn ei law, "yr hwn

  1. Parch.Hugh Lloyd