Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/159

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sydd yn dal y moroedd ar gledr ei law: a'r hwn," gan gau ei ddyrnau, a'u hestyn ar led, "sydd yn casglu y gwynt yn ei ddyrnau." Gwnaethai hyn gyd â'r fath gymhwysder, gweddeidd-dra, a hwylusrwydd, ac mewn modd mor gynhyrfiol, fel yr effeithiodd yn dra rhyfeddol ar yr holl dyrfa. Cofient yn ddiau byth mwy yr ateb eglur hwn, ag sydd gyflawn ddigonol yn erbyn pob gwrthddadleuon a all dyfais dyn neu ddiafol byth ddychymygu.

Bu yn arfer yn Sir Benfro, ac y mae eto ar a wn i, i gadw cyfarfod blynyddol ar y traeth lle y tiriodd y Ffrancod ynghylch dechreu y ganrif hon. Traethid amryw o bregethau ar yr achos. Canfyddodd Mr. Griffiths wrth ddechreu ei bregeth fod amryw o ddynion, a rhai a ymddangosent yn o barchus, yn siarad â'u gilydd, rhai yn cerdded, rhai yn marchogaeth, ar gyffiniau pellaf y dyrfa fawr oedd wedi ymgynull; a chan na allai oddef y fath olwg, gwaeddodd allan mewn geiriau o'r fath hyn:—"Gwrandewch! Chwi y rhai sydd yn rhodio ar ymylon y dorf fawr hon. Y mae yn ddrwg iawn genyf eich bod mor ddiystyr ar y fath achos. Yr ydym ni wedi ymgynull yma heddyw i goffhau daioni a thrugaredd Duw tuagat ein gwlad, yn ein cadw rhag dinystr gelynion: a thrueni mawr ydyw bod neb yn ein plith yn diystyru ei ryfedd ddaioni. Ond cofiwch, os parhau a wnewch mewn anystyriaeth ac anghof o ddaioni a thrugaredd yr Arglwydd, y mae amser yn dyfod ag y byddwch yn udo fel cwn yn uffern." Traethodd hyn gyda y fath nerth ac awdurdod, fel y