bu distawrwydd yn y fan, a nesasant oll at y dyrfa, a gwrandawsant yn ddifrifol hyd y diwedd.
Dyma y cwbl a anfonaf yn awr am y gwr hynod hwn. Tra buddiol, fel y tybiaf, yw dwyn i'r golwg y doniau hyny a rydd Duw i'w weision, y rhai a wna arddel yn helaeth er troedigaeth pechaduriaid ac adeiladaeth yr eglwys. Geill a gwna Duw arddel doniau o rywiau a graddau gwahanol, ond yn gyffredin efe a arddela y doniau mwyaf cymhwys er gwneuthur argraffiadau arfeddyliau a chalonau dynion. Gwaith doeth yw addasu yr offerynau at y gorchwyl sydd iddynt, a Duw anfeidrol ddoeth yw ein Duw ni. Aceto y dawn goreu yw teimlad dwfn o gariad at Dduw a dyn. Gwna hwn ddonio y mwyaf diddawn; ac hebddo nid yw y mwyaf doniol ond "fel efydd yn seinio, neu symbal yn tincian." Lle y byddo y cariad hwn yn gryf ac yn fywiog, diau y bydd llwyddiant mewn mesur; a chael hwn yn gysylltedig a deall goleu, dirnad cyflym, yspryd tanllyd, a thafod parablus, yw cael yr hyn sydd yn addasrwydd mawr i waith y weinidogaeth. Bydded gofal pawb sydd ynddi i ymdrechu am bob dawn cymhwys, trwy ddefnyddio pob moddion addas, yn enwedig myfyrdod ar air Duw a gweddi. Ond boed y gofal yn benaf am gael cariad Duw yn dywalltedig yn y galon.—HEN GYFAILL.
ATTODIAD G[1]
Cof yw gan yr awdwr am ymddiddan a fu rhyngddo unwaith â'r diweddar odidog Robert Hall. Wrth alw arno un bore, cafodd ef yn darllen "Hanes Cyfodiad a chwymp Ymerodraeth Rhufain, gan Gibbon."
- ↑ Tu dalen 69.