"Wel," meddwn wrtho, " yr ydych yn darllen gwaith Gibbon." "Ydwyf," meddai yntau, "ond Robert Hall gyda golwg ar wrthddrych neillduol fy swydd: ymderchaf wneuthur pobpeth a ddarllenwyf yn wasanaethgar i'r weinidogaeth, yn ddefnyddiol i'r areithfa." Dyma fel y dylai fod gyda phob gweinidog, sef casglu pobpeth a allo i ateb dyben ei swydd. Pa le bynag y byddo, bethbynag a wnelo, neu a sylwo arno, dylai olygu y cwbl gyda chyfeiriad at ei waith fel gweinidog efengyl Duw. Dyma y drefn a ddylynai Rowlands, ac a fu yn ddiau yn ddefnyddiol i'w wneuthur mor odidog.
ATTODIAD H[1]
Yr oedd Thomas Gray ar y cyntaf yn löwr o sir Forganwg. Ei ddechreuad oedd gyda'r Presbyteriaid, a daeth yn weinidog i Abermeirig, yn agos i Langeitho, ac i ddau le ereill. Ond ymunodd wed'yn â'r Trefnyddion. Dyn cryn fawr o faint, a chryf o gorph ydoedd; a chryf hefyd o ran syniadau ei feddwl, a thra charedig o ran ei serchiadau. Trwsgl oedd ei ymadroddi; ond cywir a thra efengylaidd oedd ei athrawiaeth. Diaddurn ac eglur iawn, a phrofiadol hefyd ac ymarferol, oedd ei bregethu; a diysgog a chadarn iawn oedd yn y ffydd. Nid yn ffurf, ond yn ngrym duwioldeb y rhagorai. Yr ydoedd yn llwyr onest, diragrith a difrifol, a chanddo fesur helaeth o gydymdeimlad, a chariad brawdol, ac o ddidueddrwydd yspryd. Yr oedd Rowlands yn ei hoffi yn fawr iawn: a phan ofynai ei bobl iddo, ychydig cyn ei farw, pwy a allent gael i lenwi ei le, ei ateb oedd, "Thomas Gray:" Y cyfryw oedd ei
- ↑ Tu dalen 74.