Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/164

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wiliams ddim yn gwahaniaethu yn fawr oddiwrth eiddo Romaine, Wiliam Jones, ac Esgob Horne, ar y pwnc hwn. Yr oedd yn ddiau yn dal ei farn yn rhy gyndyn: ac yr oedd eraill yn ei wrthwynebu yn rhy gyndyn, yn enwedig wedi marwolaeth Rowlands. Ymgais Rowlands yn ei ddydd ydoedd tawelu yr ymryson, ac i beri i'r ddwy ochr ddistewi. Ond ni wnai Wiliams hyny, ac ni wnai ei wrthwynebwyr hyny.

Gwedi marw Rowlands, cynhyddodd yr anghytundeb; a'r canlyniad fu yn dra blinderus i Wiliams. Cafodd ei dori allan oddiwrth y Cyfundeb yn ei henaint: a galar mawr a fu hyn i'r hen wr. Yr oedd bai yn ddiau ar y ddwy ochr. Dylasai yr hen wr ymollwng ychydig er mwyn heddwch; a dylasai ei wrthsafwyr ymddwyn yn fwy tyner a thirion tuag ato, gan ystyried ei oedran, a'i ddefnyddioldeb blaenorol. Ond hawddach beio, nag ymddwyn yn iawn mewn amgylchiadau dyrys.

ATTODIAD Μ.[1]

Y tro diweddaf y gwelodd ei fab Nathaniel ef, ychydig amser cyn ei farw, wrth ymddiddan, dywedodd wrtho, mewn sylwedd, fel y canlyn:—" Miges i fy erlid nes fy mlino; ond cei di dy erlid fwy: ond saf wrth yr Eglwys er pobpeth. Ni chei, efallai, un daledigaeth am hyny; eto saf gyda hi, ie, hyd angeu. Fe fydd diwygiad mawr yn Eglwys Loegr. Dyma anogaeth iti sefyll wrthi."—"A ydych chwi yn brophwyd," meddai ei fab.—" Nac wyf," meddai yntau; "nid wyf yn brophwyd, nac yn fab i brophwyd: ond amlygodd Duw hyn i mi ar fy ngliniau.

  1. ↑ Tudalen 89.