Ni fyddaf fi byw i'w weled."—" A fyddaf fi," meddai ei fab? Yna rhoddodd ei law, am ychydig amser dros ei lygaid, ac wedi hyny dywedodd, "Yr wyf yn meddwl, y byddi.".
Hyn a glywais gan y diweddar Barchedig Nathaniel Rowlands eihun, ynghylch y flwyddyn 1826; ac wrth ddybenu, dywedodd, y meddyliasai yn fynych am eiriau ei Dad, wedi i'r Doctor Burgess ddyfod Esgobaeth Tŷ Ddewi, ac wrth weled cynifer o offeiriaid efengylaidd yn cyfodi yn yr Eglwys Sefydledig. Wrth yr "erlid" uchod, y meddylir yn ddiau, y gwrthwynebiad a gafodd trwy ddal wrth drefn yr Eglwys, o ran y weinidogaeth. Yr oedd chwenychiad gan lawer y pryd hyny i ddwyn i mewn y drefn o neillduo a gosod rhai o'r Pregethwyr i weinyddu yr ordinhadau, fel y gwnaethid gan y Trefnyddion Wesleyaidd yn Lloegr. Croes iawn i hyn ydoedd Rowlands. Ni fynai mewn un modd ysgaru neu ymneillduo oddiwrth yr Eglwys Sefydledig. Eglwyswr trwyadl oedd efe o ran egwyddor; er nad allai, oherwydd amgylchiadau anocheladwy, gydymffurfio â rhai o'i rheolau. Tebygol yw, mai ei ddisgwyliad a'i obaith oedd, y byddai, ymhen ychydig amser, y cyfryw gyfnewid, o ran duwioldeb, yn yr Eglwys, fel y gellid uno ei bobl yn fwy cyflawn â hi. Yr ymddyddan uchod sydd, yn ol fy meddwl, yn eglur ddangos hyn. Ac nid disgwyliad disail a fuasai hwn, pe ymddygasai uchelion yr Eglwys yn ddeallus ac yn ddoeth ar yr achos. Duwioldeb bywiog yn yr Eglwys, a chyd-ddygiad â rhai pethau dibwys, a unasent yn ddiamheu mewn amser yr holl gyfundeb lluosog