Prawfddarllenwyd y dudalen hon
hwn a'r Eglwys sefydledig. Pa un a fuasai hyn er budd parhaus i wir grefydd, ni chymeraf arnaf fyhun i farnu. Y peth mwyaf i'w olygu yn mhob peth yw gwir dduwioldeb. Bethbynag fyddo y drefn, heb hyn nid yw o ddim gwerth.
D. S.—Oherwydd bod y Farwnad a gyfansoddodd y Parch. WILIAM WILIAMS, gynt o Bant-y-celyn, ar farwolaeth Mr. Rowlands, wedi myned weithian yn lled anhysbys, a chan ei bod yn cael ei hystyried mor odidog, a bod cyfeiriadau ati yn y dalenau blaenorol; barnwyd yn addas iawn ei hadargraffu gyda'r Cofiant hwn: felly, wele hi yn canlyn.