Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/167

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MARWNAD
Y PARCH. DANIEL ROWLANDS,
Gan y Parch Wm. Wiliams

Ar rhaid marw'r hên Barchedig
Rowlands, er holl ddoniau'r nef,
Roddwyd megys môr diderfyn
Yn ei ysbryd bywiog ef?"
Oni all'sai gweddiau'r eglwys,
Gafodd drwyddo nefol ras,
Ddim dros rai blynyddau'n rhagor
Gadw angau dewr i ma's?

Ai rhaid marw gwr wnai dyrfa
Oerllyd, drom, yn llawn o dân,
Werin fyddar, fud, ddifywyd,
Oll i seinio nefol gân?
Marw un wnai i Satan gwympo
Lawr yn swrth o entrych nef;
Ond er hyn, a llawer rhagor,
Angau oedd ei farw ef.

Dyn o'r pridd a wnaed i fynu,
Dyn i'r pridd sy'n myn'd i'w le;
Felly holl drigolion daear,
Ond Tywysog mawr y ne':
Y mae marw'n rhwym wrth eni,
Ac mae gwobr oer y bedd,
Fel 'tifeddiaeth anhepgorol
I'r cadarna' un ei wedd.