Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/172

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dyna'r pryd, boed cof am dano,
Ganwyd yr Assosiasiwn fawr,
Ag sy ers haner cant o flwyddau
Yn cadw i fynu hyd yn awr;
Yn gwneyd undeb athrawiaethau,
Ac yn clymu undeb crwn,
Nas gall rhagfarn na drwgdybiau
Fyth i ddatod dim o hwn.

'N awr y penaf un ddiangodd,
Rowlands sy heddyw yn y nef,
Wedi derbyn coron euraidd,
Hyfryd ffrwyth ei lafur ef:
Talent ddeg a roddwyd iddo,
Fe'u marchnatodd hwynt yn iawn;
Ac o'r deg fe'u gwnaeth hwy'n ganoedd,
Cyn machludo'i haul brydnawn.

Nid oes un o siroedd Cymru,
Braidd un phlwy' sy'n berchen cred,
Na bu ROWLANDS yn eu teithio,
Ar eu hyd ac ar eu lled;
Dros fynyddau, drwy afonydd,
Ac aberoedd gwaetha' sydd,
O Dyddewi i Lanandras,
O Gaergybi i Gaerdydd.

Deuwch drosodd i Langeitho,
Gwelwch yno ôl ei law;
Miloedd meithion yno'n dysgwyl,
Llu oddi yma, llu o draw;
A'r holl dorf yn 'mofyn ymborth,
Amryw'n dweyd, P'odd y cawn?