Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/177

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Na bydd hi'r efengyl loyw,
I fanwl ddylyn ol ei throed.

Ac nid oedd holl ddyddiau Rowlands,
Er eu bod hwy'n amser hir,
Ddim ond gwawr-ddydd iachawdwriaeth,
Ar y santaidd nefol dir;
Y mae'r eglwys fawr yn feichiog,
A hi esgor cyn prydnawn,
Ar bregethwr, megys Daniel,
O holl ddoniau'r nef yn llawn.

Ti Nathaniel, gwâs y nefoedd,
Gwylia ar y gorlan glud,
Gasglodd Rowlands, dy dad ffyddlon,
Trwy ryw orchest fawr yn nghyd;
Uwch mewn dysg, nid llai mewn doniau,
Saf fel llusern oleu glir,
I helpu ei ddefaid ef i gadw
Yr union ffordd i'r nefol dir.

Bydd yn dad i'r Assosiasiwn,
Ac os teimli'th fod yn wan,
Ti gai help gwir efengylwr,
DAFYDD onest o Langan,
Dôdd y ceryg â'i ireidd-dra,
A thrwy rym ei 'fengyl fwyn
Wna i'r derw mwyaf caled
Blygu'n ystwyth fel y brwyn.

Sefwch fel colofnau cedyrn,
Chwi gewch help i fyned trwy,
Y Llwyd doeth, a Williams, Lledrod
Ac ugeiniau gyd â hwy;