Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Brycheiniog, Morganwg a Chaerloyw, ac o fanau pellach fyth.

Ond ni adawyd iddo fyned ymlaen yn ei waith nefolaidd, heb wrthwynebiad. "Llyfr y chwareuon" a fu y tramgwydd mwyaf iddo. Nacaodd ei ddarllen ar y Sul: a hyn fu yn achos iddo gael ei wysio gerbron y Llys a sefydlid, i drin pethau o'r fath hyn, gan y pabaidd Archesgob Laud, a'i blaid annuwiol. Yr oedd hyn ynghylch y flwyddyn 1635: ond ni chafodd ei daflu allan o'r Eglwys y pryd hyny; er, y gwnaed hyn iddo ychydig o flynyddau gwed'yn. Wedi ei droi allan, fel y dywedir, gan yr Archesgob Laud, aeth ymlaen yn ei waith o bregethu: ac efe oedd y cyntaf yn Nghymru a Gasglodd gynulleidfa o Ymneillduwyr. Bleiddiaid oeddynt wedi trawsfeddianu yr Eglwys, ac ni oddefent i'r defaid aros ynddi. Nis gallent eu difrodi, o wall awdurdod; onide, gwnaethent hyny ynddiau, yn ol arfer y pabyddion. Dyma ddechreuad ymneillduaeth, wedi ei achosi gan ormes y rhai a ddringent i leoedd nad oeddynt yn perthyn iddynt. Tebyg yr un driniaeth a gafodd Rowlands. Cawn hanes fer am ryfedd lwyddiant Wroth yn y "Drysorfa Ysprydol," Tud. 154-156. Bu Wroth farw yn y flwyddyn 1640.

12. Y Parchedig Robert POWEL.

Yr oedd y gwr hwn yn cydoesi a Mr. Wroth.