Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

etifeddiaeth go olygus. Ei ddygiad i fynu oedd yn Rhydychain. Gweinidogaeth ddeffrous Mr. Wroth, o Lanvaches, a fu yn foddion ei droedigaeth, a hyny, pan oedd yn ieuanc. Daeth yn gurad i Mr. Erbury, yn Nghaerdydd. Pan rybyddiwyd Erbury, oherwydd peidio darllen ar y Sul Lyfr y chwareuon, amddifadwyd Cradoc o'i guradiaeth am yr un bai. Trwy ryw fodd neu gilydd, cafodd wed'yn guradiaeth Wrexham. Ei bregethu deffrous a barodd na adewid iddo aros ynoynhir: ond llwyddwyd ei waith er daioni i lawer. Ei weinidogaeth wed'yn a fu, y rhan fwyaf, yn deithiol. "Tramwyodd," fel y dywedir yn "Hanes crefydd yn Nghymru," Tud. 516, "trwy siroedd Brycheiniog, Maesyfed, a Threfaldwyn, gan bregethu Crist pa le bynag y caffai gyfleusdra." Tan lywodraeth Cromwel, bu dros amser yn Llundain; ac yno y, bu farw yn y flwyddyn 1659. Gwel Hanes am y gwr hwnyny"Drysorfa Ysprydol," Tud. 170-174.

15. YParchedig Vavasor POWEL.

Gwr o sir Faesyfed ydoedd hwn; a chafodd ei ddwyn i fynu yn Rhydychain. Yr oeddyn gurad i'w ewythr, Erasmus Powel, pan y cafodd olwg newydd a chywir ar grefydd trwy wrando Walter Cradoc, ynghylch y flwyddyn 1640. Ymhen ychydig unodd a Chradoc yn ei weinidogaeth deithiol, a llafurus iawn a fu dros flynyddau lawer; a thrwyddo ef, yn fwyaf neillduol,