Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neu gasglu oddiwrth eraill, rhwng gweinidogion llafurus, trallodedig ac anghenus. Efe a sefydlodd yn nhrefydd penaf Cymru rhwng tri a phedwar cant o ysgolion i ddysgu plant i ddarllen, ac a ymrwymodd i dalu am ddysgeidiaeth cant o blant ei hun. Mynodd argraffu hefyd wyth mil o Fiblau Cymraeg, mil o ba rai a roddodd i'r tlodion; ac anfonodd y saith mil eraill i'r trefydd penaf yn Nghymru, i'w gwerthu am bris rhesymol. Fr fod gan Mr. Gouge fraint-lythyr i bregethu yn achlysurol yn Nghymru, cafodd ei erlid o le i le.. Ac er ei fod yn myned yn ddyfal i'r Eglwys, ac yn cymunoyno ar droion, cafodd ei ysgymuno, tra yr oedd yn gwneuthur yr holl ddaioni hyn i'r Cymry. Ond o gariad at Dduw ac eneidiau dynion, efe a ddyoddefodd yr holl bethau hyn gyda llawer o amynedd, ac ni ddiffygiodd yn gwneuthur daioni, nes iddo orphen ei yrfa mewn llawenydd a gorfoledd."

17 Y Parchedig Stephen HUGHES.

Lle genedigol y gwr dyniongar a llafurus hwn ydoedd Caerfyrddin. Ganwyd ef yn 1623; a bu farw yn 1688. Taflwyd ef allan o Eglwys Meidrim, yn y sir y'i ganwyd, ar ddychweliad Charles yr ail, a dyoddefodd lawer o driniaeth greulawn wedi hyny. Pregethai yn dra' eglur a thoddedig, ac ymgadwai at "bethau mawrion." a sylweddol crefydd. Yr oedd y dagrau a dywalltai yn aml, yn tynu dagrau o lygaid eraill.