Byddai yn myned i bregethu i'r lleoedd tywyllaf yn y wlad, a chafodd gymeradwyaeth gan amryw o ddynion cyfrifol oherwydd ei gymhedroldeb a'i ddull bywiog o lefaru. Bu ei weinidogaeth, er yr holl rwystrau a gafodd, o fudd helaeth trwy y wlad. Anogai benau teuluoedd i ddysgu eu plant a'u gweision a'u morwynion, a chymdogion eu gilydd. A chafodd gan rai ddysgu darllen pan oeddynt yn ddeugain ac yn haner cant oed, neu ychwaneg. Yr oedd, mewn ffordd, yn pregethu pa le bynag y byddai, gan gynghori dynion am achos eu heneidiau ymron ar bob cyfle a gaffai i ymddiddan a hwynt. Yr un peth angenrheidiol oedd megis yn gorphwys yn wastadol ar ei feddwl. Ymddengys ei fod yn ddyn tra duwiol, o dymherau serehog a charuaidd, o yspryd haelionus a diduedd, ac yn dra diwyd a ffyddlon yn ei waith. Gwel Hanes Crefydd, tud. 561. Bu yn gynhorthwy i Gouge yn y gwaith o argraffu y Bibl: a chyhoeddodd, ar ei gost ei hun, a thrwy haelioni eraill, ddim llai nag ugain o wahanol Lyfrau, y rhan fwyaf ohonynt yn gyfieithiadau, o'i eiddo ei hun ac eraill; ymhlith y rhai'n, enwir y rhai canlynol:—
- Galwad i'r Annychweledig, gan Baxter
- Yn awr, neu Byth, gan yr Un.
- Traethawd ar Droedigaeth, gan Joseph Allein
- Eglurhad ar Weddi yr Arglwydd, gan W. Perkins.
- Ymarfer o Dduwioldeb.