Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ymddengys mai efe agasglodd gyntaf ganiadau Rees Prichard, o Lanymddifri. Cyhoeddodd, o leiaf, ddau argraffiad ohonynt. Gwnaeth fwy tuag at anog dynion i geisio gwybodaeth grefyddol, a thuag at gynhorthwyo ei gydgenedl i gyrhaedd y wybodaeth hon, na neb a fu o'i flaen. Bu yn gynhorthwyol ac yn offerynol i gael allan ddau argraffiad o'r Bibl, a gynhwysent ddeunaw mil o lyfrau. Y Traethodau a gyfieithodd, a gyhoeddodd, ac a wasgarodd trwy y wlad, oeddynt luosog iawn. Y siroedd, a gawsant y budd yn fwyaf neillduol, oddiwrth ei lafur haelionus ef, a Gouge hefyd, oeddynt Gaerfyrddin, Brycheiniog a Morganwg. Gwel "Trysorfa": Llyfr ii, Rhif. 2. Tud. 49-58.

18 Y Parchedig Peregrine PHILIPS.

Ganwyd hwn yn Ambra, yn sir Benfro, yn yr un flwyddyn a Stephen Hughes, sef 1623. Dygwyd ef i fynu yn Rhydychain. Gwasanaethodd yn gyntaf Gydweli, sir Gaerfyrddin. Curad oedd i'w ewythr, y Doctor Collins. Oherwydd ei boblogrwydd a'i ddoniau helaeth, rhoddwyd iddo Mounton yn agos i dref Penfro; a chafodd hefyd Eglwys St. Mary a Choshestru. Pregethwr diwyd y thra doniol oedd, yn rhagori ar y rhan fwyaf yn ei ddydd. Yn amser Cromwel, pregethai yn gyffredin trwy y sir; a dywedir, nad oedd nemawr o eglwysi ynddi na fu ef yn pregethu ynddynt. Efe a bregethai yn rhwydd yn