y ddwy iaith, Saesneg a Chymraeg. Ond ar ddychweliad Charles yr ail, cafodd, fel llawer eraill, ei daflu allan. Taflu ymaith yr aur, a chadw y sothach, oedd yr ynfydrwydd a wneid yr oes hono. Mochaidd hollol oedd tymher yr amser, gan y dewisid y cibau, a sathrid y perlau yn y llaid. Gorfu arno wed'yn gymeryd tyddyn er cynnal ei deulu; ond ni allai lai na phregethu yr efengyl: ac oherwydd hyn blinwyd ef yn fawr gan rai o swyddogion y wlad. Bu fyw hyd y flwyddyn 1691. Mwynhaodd ryddid i bregethu y rhan olaf o'i fywyd. Ei weinidog aeth a fu yn helaeth ddefnyddiol.
19 Hugh OWEN.
Bron-y-clydwr, yn sir Feirionydd, oedd lle genedigol a thrigfod y gwr duwiol hwn trwy ei oes. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1637, a bu farw yn 1699. Cafodd ei ddwyn i fynu yn Rhydychain tua dechre amser y chwyldroad yn y deyrnas. Oherwydd rhyw wrthwynebiad oedd ganddo i rai pethau yn yr Eglwys, ni chymerodd urddau ynddi. Bu byw ar ei dreftadaeth fechan, ac ymroddodd ei hun i bregethu yr efengyl yn rhad i dlodion diddysg. Yr oedd ganddo tua deuddeg o fanau y pregethai ynddynt, yn siroedd Meirionydd a Threfaldwyn: rhai ohonynt ddeg Ar hugain o filldiroedd oddiwrth ei le aneddol. Arferai hefyd deithio ar brydiau i sir Gaernarfon a pharthau eraill. Gorphenai ei gylchdaith